Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU 2022-2025 Cynnal y Cardi
Cefnogi cymunedau a busnesau lleol yng Ngheredigion
Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i gefnogi busnesau a chymunedau i ddarparu atebion cynaliadwy ond arloesol i fynd i’r afael a rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu ardaloedd gwledig, mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu Cronfa Cynnal y Cardi a ariennir gan Lywodraeth y DU, wedi’i yrru gan Ffyniant Bro.
Caiff y cynllun ei gyflawni drwy ddau ddull: Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol a Chronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau Ceredigion.
Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi ar gyfer Datblygu Cymunedol – Caiff y cynllun ei gyflawni drwy ddau ddull:
- Cynllun grantiau llwybr cyflym bach £1,000 – £10,000
- Grant mwy £10,001 – £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)
Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan gynnwys;
- Cynorthwyo pobl, busnesau a chymunedau lleol i gynnig atebion cynaliadwy ond arloesol er mwyn mynd i’r afael a rhai o’r heriau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sy’n wynebu eu hardaloedd gwledig, a chael pobl i gymryd rhan yn y gwaith hwnnw
- Treialu ffyrdd newydd o weithio
- Galluogi cymunedau i fuddsoddi ac adfer mannau cymunedol a pherthnasoedd
- Creu’r sylfeini ar gyfer datblygiad economaidd ar lefel cymdogaeth
- Cefnogi cymunedau gan alluogi pobl i fod eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt
Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar;
- Seilwaith newydd ar gyfer cymunedau a chymdogaethau, neu welliannau i seilwaith sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys mannau gwyrdd lleol
- Datblygu a hyrwyddo digwyddiadau a phrofiadau lleol drwy gydol y flwyddyn, sy’n annog pobl i ymweld â’r ardal leol a chrwydro o’i hamgylch
- Rhoi prawf ar ddulliau treialu ac astudiaethau dichonoldeb
- Cymorth ar gyfer gweithgareddau lleol ym maes y celfyddydau, diwylliant, treftadaeth a chreadigrwydd
- Buddsoddi yn y gwaith o feithrin capasiti a chefnogi seilwaith ar gyfer grwpiau cymunedol gan gynnwys cynllunio olyniaeth
- Mesurau cymunedol i leihau costau byw gan gynnwys mesurau i wella effeithlonrwydd ynni a mynd i’r afael a thlodi tanwydd a’r newid yn yr hinsawdd
- Buddsoddi mewn seilwaith digidol ar gyfer cyfleusterau cymunedol lleol a chynnig cymorth ar gyfer seilwaith o’r fath
Cronfa Gymorth Cynnal y Cardi i fusnesau Ceredigion – Caiff y cynllun ei gyflawni drwy ddau ddull
- Grantiau busnes bach £1,000 – £10,000
- Grantiau datblygu busnes £10,001 – £50,000 (Ni fydd cynigion am grantiau mwy na hynna’n cael eu heithrio ond bydd angen rhesymeg gadarn drostynt)
Nod y gronfa hon yw cryfhau ecosystemau entrepreneuraidd lleol a chefnogi busnesau ar bob cam o’u datblygiad i ddechrau, cynnal, tyfu ac arloesi drwy rwydweithiau lleol.
Bydd y gronfa hon yn cefnogi amrywiaeth o weithgareddau refeniw a chyfalaf, gan gynnwys;
Hybu’r economi, cefnogi busnesau a galluogi cyflogaeth
- Cynorthwyo entrepreneuriaid Newydd gyda’u dyheadau i ddechrau busnes
- Cynorthwyo busnesau sy’n bodoli eisoes gyda’u cynlluniau i dyfu
- Hwyluso a chynhorthwy’r sector mentrau cymdeithasol i fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael iddynt
- Meithrin cydnerthedd a gwybodaeth mewn busnesau, yn enwedig yng nghyswllt datgarboneiddio, effeithlonrwydd ynni a chymorth digidol
Bydd y gronfa yn canolbwyntio ar;
- Gweithgarwch ym maes entrepreneuriaeth
- Cynorthwyo datblygiadau sy’n galluogi busnesau i ddechrau a thyfu
- Cynorthwyo I hybu arloesi a’r agenda o ran sgiliau ar gyfer busnesau bach a chanolig a busnesau newydd, er mwyn sefydlu’r amodau i greu swyddi sydd â gwerth uwch yn yr economi
- Cynorthwyo busnesau lleol i fanteisio ar dechnoleg ddigidol
- Cynorthwyo I atgyfnerthu gwaith datgarboneiddio ac effeithlonrwydd ynni i fusnesau
- Cyllid I gynorthwyo gwaith comisiynu / asesu dichonoldeb strategol perthnasol
- Creu Canolfannau Menter er mwyn galluogi perchnogion busnes i rannu arfer da a chydweithio
Bydd ceisiadau ar gyfer Cronfa Cynnal y Cardi yn agor yng Ngheredigion ddydd Iau Medi 28ain, 2023.
Sut i Wneud Cais:
Dylai pob ymgeisydd lawr lwytho ffurflen gais a’r ddogfen ganllaw. Sgroliwch i lawr am ddolenni i’r rhain a dogfennau atodol.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11:59pm Dydd Mawrth 31 Hydref, 2023.
Sylwadau Diweddar