Cronfa waddol gymunedol genedlaethol yw Cronfa i Gymru sy’n cael ei rheoli a’i hyrwyddo gan Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’n hyrwyddiad dyngarol ac yn rhaglen creu grantiau sy’n codi arian oddi wrth bobl a sefydliadau ledled Cymru, y DU a thramor sydd eisiau ‘rhoi’n ôl’ er mwyn cefnogi a chryfhau cymunedau lleol: mae Cronfa i Gymru’n cysylltu pobl sydd ag ots gydag achosion sy’n cyfrif.

Yn 2020 cyhoeddodd Sefydliad Cymunedol Cymru ganfyddiadau ymchwil a wnaed gyda mwy na 100 o grwpiau cymunedol ar draws Cymru.  Amlygodd ein hadroddiad Yn Uchel ac yn Groch  fod elusennau a grwpiau cymunedol yng Nghymru eisiau i arianwyr roi blaenoriaeth i arian craidd ac i bartneriaethau tymor hirach.  Rydym wedi defnyddio’r hyn a ddysgwyd yn yr adroddiad hwn i’n helpu i ffurfio Cronfa i Gymru a dangos i grwpiau ein bod yn credu yn eu dibenion craidd a’n bod ni eisiau eu cefnogi i weithio’n fwy effeithiol yn eu cymunedau yn y tymor hirach.

Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw bod grwpiau’n allu cynllunio ar gyfer y dyfodol a bod cael sicrwydd fod arian ar gael yn gallu rhoi’r hyder a sicrwydd i chi i ddatblygu’ch prosiect dros y tymor hir. Mae Cronfa i Gymru’n cynnig cyfle i grwpiau ymgeisio am arian am sawl blwyddyn, hyd at dair blynedd, ond bydd hefyd yn dal ati i gynnig arian ar gyfer prosiectau un flwyddyn neu eitemau cyfalaf bychain.

Rydym yn gobeithio gallu dyrannu o leiaf un grant tair blynedd y flwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. D.S. Bydd eich cais yn dal i gael ei ystyried ar gyfer cyllid un flwyddyn os nad ydych yn llwyddiannus am grant tair blynedd.

Rydyn ni’n gobeithio gallu rhoi o leiaf un grant tair blynedd pob blwyddyn. I gael eich ystyried ar gyfer grant tair blynedd, dylech gwblhau’r adran ychwanegol ar y ffurflen gais i ddangos sut rydych yn bwriadu datblygu’ch prosiect dros y cyfnod ariannu yr ymgeisir amdano. Rydym hefyd yn cydnabod ei bod yn anodd cael arian craidd, yn enwedig yn y tymor hirach. Erbyn hyn, mae grwpiau’n gallu ymgeisio am arian tuag at gostau craidd am hyd at dair blynedd, cyn belled bod y grŵp yn gallu cyflwyno cyfrifon ar gyfer o leiaf y 12 mis diwethaf a bod y swm yr ymgeisir amdano’n llai na 50% o’r trosiant blynyddol. Er enghraifft i ymgeisio am grant o £2,000 y flwyddyn, dylai’ch incwm blynyddol fod o leiaf £4,000.

Y grantiau sydd ar gael

Dyfernir grantiau rhwng £500 a £2,000 i sefydliadau cymunedol bach sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr y mae eu ceisiadau yn cynnwys y nod o ddarparu’r canlyniadau canlynol:

  • Gwella cyfleoedd pobl mewn bywyd
  • Adeiladu cymunedau cryfach
  • Gwella amgylcheddau gwledig a threfol
  • Annog pobl a chymunedau iachach a mwy gweithgar
  • Diogelu treftadaeth a diwylliant

Gall grantiau cwmpasu costau llawn neu ran o gostau, er enghraifft: costau prosiect, eitemau a chyfarpar cyfalaf bach, costau craidd, gweithgareddau a rhaglenni (e.e. llogi ystafell, costau teithio, treuliau gwirfoddolwyr, yswiriant, ffioedd tiwtor, digwyddiadau cymunedol).

Pwy all wneud cais?

Mae’r Gronfa yn agored i elusennau a sefydliadau cymunedol cyfansoddedig (e.e. cymdeithasau, mentrau cymdeithasol a chlybiau):

  • y mae pob un o’u buddiolwyr yng Nghymru
  • sydd ag incwm sy’n llai na £100,000 yn ôl yr adroddiad ariannol blynyddol diweddaraf
  • sy’n cael eu cynnal gan wirfoddolwyr ac nad oes mwy nag un aelod o staff llawn amser drwy gydol y flwyddyn

Rhoddir blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n gallu dangos sut yn union y byddant yn bodloni amcanion a blaenoriaethau’r Gronfa, ac nad ydynt wedi cael cymorth gan y Gronfa hon o’r blaen.

Sut i wneud cais?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen ac yn deall meini prawf y gronfa cyn cwblhau eich cais.

Ffurflen gais ar wefan Sefydliad Cymunedol Cymru

Gellir gweld gwybodaeth am y gronfa hon hefyd ar Cyllido Cymru.