Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i annog newid o
ran mynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb i gael effaith gadarnhaol ar fywydau
plant a’u teuluoedd yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i blant a phobl ifanc, teuluoedd ac aelodau’r
gymuned, a sefydliadau sy’n cefnogi plant mewn tlodi ac sy’n llais drostynt, i’n helpu
i wneud penderfyniadau am yr hyn y dylem ei wneud i fynd i’r afael â thlodi plant.

Mae angen eich help arnom i benderfynu beth i’w gynnwys mewn ymgynghoriad
ffurfiol ar Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru.

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn drwy lenwi’r ffurflen ar-lein

Ymunwch â ni ar 24/3/23 am 1pm ar gyfer ein cyfarfod Strategaeth Tlodi Plant, archebwch drwy Eventbrite.