Newyddion da – gallwch wneud cais am gyllid hyd at £10,000 drwy ein rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.

Mae’r rhaglen Arian i Bawb bellach yn derbyn ceisiadau sy’n dathlu’r Jiwbilî Platinwm. Dylai’r rhain barhau i fodloni ein nodau safonol a’n meini prawf cymwys. Er nad yw’n ofyniad, bydd y prosiectau cryfaf hefyd yn hyrwyddo cydberthnasau ar draws cenedlaethau neu’n datblygu sgiliau a phrofiad cymunedau neu’n annog gofal/ gweithredu yn y byd naturiol fel rhan o’r dathliad.

Gellir derbyn ceisiadau hefyd ar gyfer digwyddiadau un-tro ar ddiwrnod y Jiwbilî sy’n bodloni’r meini prawf hyn. Bydd y ceisiadau cryfaf yn dangos effaith barhaol y tu hwnt i’r digwyddiad ei hun ac mae’n debygol y byddwn yn derbyn mwy o geisiadau nag y gallwn eu hariannu.

Er mwyn cefnogi eich prosiect i ddechrau ar amser ni ddylid derbyn ceisiadau ar gyfer prosiectau jiwbilî yn hwyrach na 31 Mawrth 2022.

Mwy o wybodaeth yma:https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/national-lottery-awards-for-all-wales