Nod y grant yw cefnogi lles plant a phobl ifanc drwy:
- • darparu’r lle a’r amser ar gyfer chwarae, cefnogi eu hwyl a’r cyfle i fynegi eu hunain drwy chwarae
- mentrau rhyngweithiol, creadigol a chwarae yn y gymuned ar gyfer pob oedran
- darparu cyfleoedd i ddatblygu ac adeiladu eu sgiliau cymdeithasol drwy ddarparu cyfleoedd i ymgysylltu â ffrindiau a chyfoedion
- creu lle a chyfle i chwarae’n rhydd a gweithgarwch corfforol
Er mwyn cyflawni hyn, gellir defnyddio’r grant i ariannu rhandaliad i ddarparu cyfleoedd a gweithgareddau sy’n:
- am ddim yn y man cychwyn
- yn hawdd ei gyrraedd a’i gynnal o fewn y gymuned, gan gynnwys pob cymuned a phob cefndir o blant a phobl ifanc gan ein bod am ddathlu amrywiaeth a symud i ddileu anghydraddoldeb o bob math
- gweithgareddau a chyfleoedd sy’n briodol i oedran i blant a phobl ifanc 0-25 oed mewn amrywiaeth o leoliadau, gyda theilwra i fynd i’r afael â blaenoriaethau sy’n gysylltiedig ag oedran
- cefnogi mynediad cyfartal i blant a phobl ifanc – gall hyn olygu teilwra neu gynyddu rhai gwasanaethau i fynd i’r afael ag anfanteision cynhenid
- ar gael ac yn cael ei ddarparu yn y Gymraeg neu’r Saesneg, wrth i ni wthio tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg Dylai fod cyfle i blant a phobl ifanc gymryd rhan yn eu dewis iaith. Ni ddylid defnyddio darpariaeth ddwyieithog yn lle darpariaeth cyfrwng Cymraeg benodol ac ymroddedig
- yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar atal COVID-19 ac o ran canllawiau COVID-19 perthnasol sy’n benodol i’r sector.
GWELER Y NODIADAU CANLLAW I GAEL RHAGOR O WYBODAETH AM YR HYN Y GELLIR EI ARIANNU
Rhaid cwblhau’r gwaith erbyn 31 Mawrth 2022.
Llenwch y ffurflen hon a’i dychwelyd i Steven Jones erbyn 26 Tachwedd 2021.
Steven Jones – steven.jones@ceredigion.gov.uk / 07805914725
Sylwadau Diweddar