Diolch i Wirfoddolwyr Ceredigion

Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Ceredigion 2021 yn diolch i’r miloedd o drigolion Ceredigion sydd wedi rhoi o’u hamser i wirfoddoli a chefnogi mudiadau a’u cymunedau dros y 18 mis diwethaf.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) wedi cyhoeddi enillwyr Gwobrau Gwirfoddolwyr CAVO 2021 sy’n dathlu’r ystod enfawr o fudiadau ac unigolion sy’n rhoi eu hamser i weithio gydag elusennau a chymunedau’r sir.

Prif Swyddog CAVO, Hazel Lloyd Lubran ‘Mae cymaint o bobl wedi rhoi cymaint sydd wir wedi gwneud y gwahaniaeth hwnnw i’n cymunedau yng Ngheredigion, rydym yn diolch i chi i gyd. Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Ceredigion yn rhoi cyfle inni dynnu sylw at nifer o unigolion a grwpiau eithriadol sydd wedi mynd y tu hwnt i’r arfer.’

Bydd gwirfoddolwyr a mudiadau gwirfoddol yng Ngheredigion yn derbyn tystysgrifau ac yn cael darn celf unigryw a grëwyd gan yr artist o Ceredigion, Helen Elliot, ac eleni creodd CAVO nifer o gategorïau newydd i gydnabod gwirfoddolwyr Ceredigion.

Enillwyr 2021 yw:

Gwobr Seren Disglair Ifanc – Mattie Jones ac Elliott Jones
Gwobr – Wedi Ceisio Rhywbeth Newydd – Jenny Jenkins
Gwobr Caredig Tu Hwnt – Nigel Callaghan
Gwobr Cydweithio – Fforwm Cymunedol Penparcau
Gwobr Cydlynydd Gwirfoddolwyr y Flwyddyn – Yvonne Dryburgh

Mae Ceredigion bob amser wedi bod yn sir o wirfoddolwyr gyda miloedd lawer o bobl yn rhoi eu hamser, eu hegni a’u hymrwymiad bob dydd. Fodd bynnag, eleni mae wedi bod yn ysbrydoledig gweld faint o bobl oedd eisiau cefnogi eu cymunedau. P’un a oedd hynny’n anffurfiol trwy fod yn gymydog da, ymuno ag un o’r grwpiau cymorth cilyddol gwych a gododd yn ystod y broses gloi neu wirfoddoli’n fwy ffurfiol.

Mae Gwobrau Gwirfoddolwyr Ceredigion yma i ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’n cymunedau sy’n gwneud y gwahaniaeth hwnnw.