Ar gyfer Girfoddolwyr

(sgroliwch i lawr ar gyfer yr Adran Darparwyr Gwirfoddol)

 

Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru. Nod Gwirfoddoli Cymru yw adeiladu ar hyn a darparu llwyfan gwirfoddoli sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

A wnaethoch chi gynorthwyo yn ystod y pandemig? Hoffech chi helpu eich cymuned neu achos sy’n agos at eich calon yn y dyfodol?

Os ydych chi’n gwirfoddoli neu os byddech chi’n ystyried gwirfoddoli, mae angen eich barn chi arnom ni ar gyfer lwyfan nesaf Gwirfoddoli Cymru sef adnodd i’ch helpu chi i ddod o hyd i gyfleoedd gwych ac i gael y budd mwyaf o’r amser rydych chi’n ei roi.

Cymerwch ran yn yr arolwg hwn a fydd yn cymryd 5 i 10 munud a helpwch i lunio’r llwyfan sy’n anelu at adeiladu ar yr ymateb anhygoel gan wirfoddolwyr a brofwyd yng Nghymu.

Cliciwch yma i lenwi’r arolwg

Gwybodaeth am yr arolwg

Mae Gwirfoddoli Cymru yn deall bod cynnwys y bobl a fydd yn defnyddio’r llwyfan yn y gwaith dylunio a datblygu o’r cychwyn cyntaf yn bwysig iawn os yw’r llwyfan yn mynd i wneud bywyd yn haws i ddarparwyr gwirfoddolwyr. Dyna ddiben yr arolwg hwn.

Cynhelir yr arolwg hwn gan werthuswr annibynnol, Wavehill. Bydd unrhyw sylwadau rydych chi’n eu gwneud yn gyfrinachol a chaiff eich ymatebion eu defnyddio at ddibenion yr ymchwil hon yn unig.

Cynhelir yr arolwg hwn gan werthuswr annibynnol, Wavehill. Bydd unrhyw sylwadau rydych chi’n eu gwneud yn gyfrinachol a chaiff eich ymatebion eu defnyddio at ddibenion yr ymchwil hon yn unig. Ni ddylai gymryd yn fwy na 5 i 10 munud i lenwi’r arolwg a bydd eich adborth chi yn helpu Gwirfoddoli Cymru i ddatblygu llwyfan a fydd yn llunio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwirfoddoli.

Os oes gennych chi gwestiynau pellach, cysylltwch ag Ioan Teifi (ioan.teifi@wavehill.com | 01545 571 711) neu Michiel Blees yn CGGC (mblees@wcva.cymru).

Ar gyfer Darparwyr Gwirfoddol

 

Mae’r pandemig wedi arwain at gynnydd mawr yn nifer y gwirfoddolwyr yng Nghymru. Nod Gwirfoddoli Cymru yw adeiladu ar hyn a darparu llwyfan gwirfoddoli sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

Ydych chi’n gweithio gyda gwirfoddolwyr? Hoffech chi gynnwys gwirfoddolwyr yn eich gwaith yn y dyfodol?

Os ydych chi’n ddarparwr gwirfoddolwyr neu os ydych chi’n ystyried cynnwys gwirfoddolwyr, mae angen eich barn chi arnom ni ar gyfer llwyfan nesaf Gwirfoddoli Cymru sef adnodd am ddim er mwyn ei gwneud yn haws i chi recriwtio, rheoli, a chadw gwirfoddolwyr.

Cymerwch ran yn yr arolwg hwn sy’n cymryd rhwng 5 a 10 munud a helpwch i lunio’r llwyfan sy’n anelu at adeiladu ar yr ymateb gwirfoddolwyr anhygoel rydyn ni wedi’i brofi yng Nghymru.

Cliciwch yma i lenwi’r arolwg

Gwybodaeth am yr arolwg

Mae Gwirfoddoli Cymru yn deall bod cynnwys y bobl a fydd yn defnyddio’r llwyfan yn y gwaith dylunio a datblygu o’r cychwyn cyntaf yn bwysig iawn os yw’r llwyfan yn mynd i wneud bywyd yn haws i ddarparwyr gwirfoddolwyr. Dyna ddiben yr arolwg hwn.

Cynhelir yr arolwg hwn gan werthuswr annibynnol, Wavehill. Bydd unrhyw sylwadau rydych chi’n eu gwneud yn gyfrinachol a chaiff eich ymatebion eu defnyddio at ddibenion yr ymchwil hon yn unig.

Ni ddylai gymryd yn fwy na 5 i 10 munud i lenwi’r arolwg a bydd eich adborth yn helpu Gwirfoddoli Cymru i ddatblygu llwyfan a fydd yn llunio dyfodol gwirfoddoli yng Nghymru ac yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr.

Os oes gennych chi gwestiynau pellach, cysylltwch ag Ioan Teifi (ioan.teifi@wavehill.com | 01545 571 711) neu Michiel Blees yn CGGC (mblees@wcva.cymru).

Gwybodaeth am Gwirfoddoli Cymru

Mae Gwirfoddoli Cymru yn llwyfan gwirfoddoli digidol y gallwch chi ei ddefnyddio am ddim. Mae’r llwyfan yn cynnal cannoedd o gyfleoedd gwirfoddoli o bob rhan o Gymru mewn un lle gan ei gwneud yn haws i ddod o hyd i wirfoddolwyr ac i’w recriwtio – neu dechreuwch ar eich taith wirfoddoli eich hun.

Ewch i volunteering-wales.net i ddysgu mwy.