Mae Theatr Byd Bychan wrth ei bodd i fod yn gweithio gyda Chyngor Sir Ceredigion i ddarparu gweithgareddau Haf o Hwyl i gefnogi plant a phobl ifanc sydd yn dod dros y pandemig yng Ngheredigion. Wrth lansio’r prosiect £5M ar draws Cymru gyfan, dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n edrych ar y rhychwant llawn o anghenion ein plant a’n pobl ifanc ni ac yn gosod lles cymdeithasol ac emosiynol wrth graidd yr adferiad wedi’r pandemig.

Bydd Theatr Byd Bychan yn rhedeg diwrnodau gweithgaredd rhad ac am ddim drwy gydol mis Awst yn ei safle yn Aberteifi, gan gefnogi pobl ifanc drwy greu cyfleoedd i chwarae gyda’u cyfoedion ac i wneud ffrindiau newydd. Bydd y gweithdai’n cynnwys creu barcud, cerfluniau broc môr, creu angenfilod, Drama mewn Dydd, sesiynau blasu awyrgampau syrcas, yn ogystal â chlownio a jyglo.

Dywedodd Deri Morgan, arweinydd prosiect Amethyst yn Theatr Byd Bychan, ‘Mae effaith Covid-19 ar bobl ifanc yn fawr ac mae unigedd mewn pobl ifanc yn fater mawr yn ein cymuned. Bydd Haf o Hwyl o gymorth mawr i fynd i’r afael â’r problemau hyn a bydd gweithgareddau Theatr Byd Bychan yn cefnogi lles meddyliol yn ogystal â chynnig cyfleoedd dysgu creadigol.’

‘Mae Theatr Byd Bychan yn un o’r 45 darparwr sy’n cynnig “Haf o Hwyl” ledled Cymru ar ran awdurdodau lleol, ac rydym ni’n falch iawn eu bod nhw’n rhan o hyn,’ medd Cathryn Morgan o Gyngor Sir Ceredigion. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â gweithgareddau Haf o Hwyl gyda Theatr Byd Bychan ac i archebu lle i’ch plentyn am ddim, ewch i smallworld.org.uk