CGGC newydd ail-lansio ail-lansio cynllun grant Gwirfoddoli Cymru ar gyfer prosiectau a fydd yn cefnogi profiad gwirfoddoli cadarnhaol, yn mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned.

Mae cynllun prif grant Gwirfoddoli Cymru 2022-25 yn derbyn ceisiadau nawr gan ddefnyddio Porth Ymgeisio Amlbwrpas (MAP) CGGC.

Y flwyddyn hon, bydd cynllun Prif Grant Gwirfoddoli Cymru yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r rhwystrau i wirfoddoli, yn rhoi profiad cadarnhaol i’r gwirfoddolwr ac yn cael effaith hirdymor ar y gymuned.

Bydd cyllid o hyd at £25,000 y flwyddyn ar gael, dros uchafswm o ddwy flynedd.

YNGLŶN Â GRANTIAU GWIRFODDOLI CYMRU

Gwirfoddoli yw un o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol sy’n olrhain cynnydd Cymru yn erbyn nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) yw gwella’r ffordd y mae Cymru yn cyflawni llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol.

Drwy gyllido mudiadau i gefnogi a hyfforddi unigolion mewn cyfleoedd gwirfoddoli o ansawdd, mae gwirfoddoli’n cael effaith gadarnhaol uniongyrchol a hirdymor ar yr unigolyn a’r gymuned. Yn genedlaethol, mae gwirfoddolwyr yn hanfodol i gyflawni cenhadaeth a gwerthoedd mudiadau gwirfoddol.

HELPU’R GYMUNED A’R GWIRFODDOLWYR

Mae prosiectau blaenorol wedi cyflawni canlyniadau sylweddol, sydd nid yn unig wedi rhoi budd i’r gymuned yn ystod y pandemig ond sydd hefyd wedi bod yn fuddiol i lesiant y gwirfoddolwyr.

Dywedodd un gwirfoddolwr o Sefydliad Glowyr Caerffili wrthym:

‘Rydw i wedi bod yn gwau sgwariau blanced ers i’r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2020. Roeddwn i’n reit emosiynol yn cludo bron 50 ohonynt i’r Ganolfan heddiw, nid yn unig am fod y gwau yn mynd at achosion mor deilwng, ond am ei fod yn cynrychioli’r cyfnodau clo a’r cyfyngiadau a oedd ar ein bywydau bryd hynny.’

Mae’r Gymdeithas Tsienieaidd yng Nghymru wedi bod yn cefnogi gwirfoddolwyr a’u cymunedau i ddod yn fwy gwydn, er enghraifft:

‘Mae gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn byw yng Nghymru am ddau ddegawd ond erioed wedi gwneud ffrindiau newydd, mae’r cyfeillio hwn wedi gwella ei dewrder i fynd allan a chwrdd â phobl. Mae’r cyfeillachwyr a’r rheini y maen nhw’n gwneud ffrindiau â nhw yn fwy gwydn gan eu bod yn dysgu’r pethau sylfaenol yn y byd digidol sydd gennym nawr, fel defnyddio Zoom a gwneud ceisiadau ar-lein, a oedd yn bethau heriol iddyn nhw ar y dechrau.’

RHAGOR O WYBODAETH A GWNEUD CAIS

Os oes gan eich mudiad ddiddordeb mewn manteisio ar gynllun prif grant Gwirfoddoli Cymru, ewch i tudalen grantiau Gwirfoddoli Cymru i gael rhagor o fanylion neu cysylltwch â volwalesgrants@wcva.cymru.

Gellir gwneud ceisiadau drwy MAP, Porth Ymgeisio Amlbwrpas CGGC. I gofrestru a gweld cyfleoedd cyllido presennol CGGC, ewch i map.wcva.cymru.

Dyddiad Cau: 20 Mai 2022