Mae Leonard Cheshire Cymru a Scope yn falch o lansio eu rhaglen bartneriaeth, Working on Wellbeing: rhaglen gyflogaeth hyfforddiant a chefnogaeth ar gyfer pobl anabl yn Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion. Ariannwyd y rhaglen trwy grant a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd cydlynwyr y rhaglen Charlotte Aitken a Rebecca Bolton: “Rydym yn gyffrous i fod yn cychwyn her newydd yng Ngorllewin Cymru ac ni allwn aros i wneud gwahaniaethau i fywydau pobl eraill.”

Mae’r rhaglen yn agored i unrhyw un sy’n 16 oed neu drosodd, sy’n ddi-waith ac y mae ganddynt amhariad corfforol neu synwyriadol, anhawster dysgu, awtistiaeth neu anabledd iechyd meddwl. Bydd yn cynnig cyngor a chefnogaeth i gael gwaith, a chafodd y rhaglen ei llunio er mwyn cyflawni anghenion a nodau gyrfaol unigolion.

Dywedodd Glyn Meredith, Cyfarwyddwr Cymru, Leonard Cheshire: “Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Scope i ddarparu’r rhaglen gyflogaeth a chefnogaeth bwrpasol hon y mae mawr angen amdani – gwyddom y bydd y rhaglen hon yn newid bywydau ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl anabl yng Nghymru”.

Mae’r rhaglen yn ceisio helpu pobl sy’n cymryd rhan i ddeall eu nodau gyrfaol, tyfu eu hyder a meithrin pendantrwydd ac annibyniaeth. Bydd pobl sy’n cymryd rhan yn cael eu cefnogi i ddatblygu dogfennau CV, sgiliau cyfweliad a dod o hyd i a chynnig am gyfleoedd gwirfoddoli, hyfforddiant neu waith. Byddant yn cael cyfle i siarad am eu profiadau o anabledd yn y gweithle mewn ffordd anffurfiol, gyda chynghorwyr cyflogaeth arbenigol all drafod y gefnogaeth maen nhw ei hangen, ac efallai mewn sesiynau hyfforddiant grŵp.

Dywedodd Paul Benson, Arweinydd Rhaglen Partneriaethau Scope: “Mae Scope a Leonard Cheshire Disability yn cydweithio trwy gyfuno eu harbenigedd a’u profiad i wella rhagolygon gwaith pobl anabl yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin trwy raglen Working on Wellbeing sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru.”

Trwy gyfuno eu profiad a’u harbenigedd, bydd Scope a Leonard Cheshire yn gwneud gwelliannau amlwg i lesiant emosiynol pobl anabl yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin trwy eu cefnogi i ddatblygu sgiliau newydd a hyder trwy gefnogaeth cyflogaeth arbenigol. Trwy’r gefnogaeth a ddarperir gan Leonard Cheshire a Scope, bydd pobl anabl yn cael gwell llesiant economaidd ac annibyniaeth trwy symud yn agosach at ac i mewn i waith ystyrlon”

Trwy gyfuno eu profiad a’u harbenigedd, bydd Scope a Leonard Cheshire yn gwneud gwelliannau amlwg i lesiant emosiynol pobl anabl yn Sir Benfro, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin trwy eu cefnogi i ddatblygu sgiliau newydd a hyder trwy gefnogaeth cyflogaeth arbenigol. Trwy’r gefnogaeth a ddarperir gan Leonard Cheshire a Scope, bydd pobl anabl yn cael gwell llesiant economaidd ac annibyniaeth trwy symud yn agosach at ac i mewn i waith ystyrlon”

Gwefan: https://www.leonardcheshire.org/where-we-work/wales

Facebook: https://www.facebook.com/LeonardCheshireWales/

Twitter: https://twitter.com/LCCymru