Neges o Cysylltu Ceredigion:

Rydym oll yn gwybod am grwpiau yn ein hardal sy’n mynd yr ail filltir i gynorthwyo’r rhai sy’n manteisio ar eu gwasanaethau – ceir cannoedd o elusennau a grwpiau cymunedol yn eich Sir, sy’n gweithio gydag unigolion a grwpiau, gan hwyluso eu bywydau a chynorthwyo pawb.

Weithiau, caiff y grwpiau hyn eu rhedeg gan wirfoddolwyr a staff rhan-amser, ond maent wastad yn fodlon helpu ac weithiau, mynd #ytyhwuntirgalw

Rydyn ni’n cynnig cyfle i 4 grŵp yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Ceredigion i ennill £500 yr un – gallant ei ddefnyddio i ddarparu eu gwasanaeth neu efallai ei ddefnyddio i ddathlu eu gwirfoddolwyr – nhw sydd i benderfynu!

Gall unrhyw un enwebu grŵp (gall grwpiau enwebu eu hunain!) ac rydym eisiau weld cymaint o grwpiau â phosibl yn cael eu enwebu i ennill gwobr. Bydd enillwyr yn cael eu penderfynu trwy bleidlais agored ar blatfform Connect Ceredigion.

Am beth ydych chi’n aros?

Gwnewch eich enwebiadau nawr

Dyddiad cau: 17 Medi 2021