Mae’r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) sy’n torri tir newydd, a ‘Cymru Iachach’, cynllun 10 mlynedd Llywodraeth Cymru, yn nodi uchelgais ar gyfer darparu iechyd a gofal cymdeithasol integredig ac ataliol yng Nghymru. Nod y ddau yw sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cynllunio a’u darparu o amgylch anghenion a dewisiadau unigolion, a chyda llawer mwy o bwyslais ar gadw pobl yn iach mor agos at eu cartrefi â phosibl. Arweiniodd y mentrau hyn at ddatblygu cronfa i gefnogi byrddau partneriaeth rhanbarthol i ddarparu ffocws ar ofal yn y gymuned, iechyd a llesiant emosiynol, cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, plant sydd â phrofiad o ofal, gwasanaethau cartref o’r ysbyty ac atebion seiliedig ar lety.

Mae CAVO yn falch o gyhoeddi prosiect newydd a gefnogir gan y Gronfa Integreiddio Ranbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy’n gweithio i wneud cymunedau yn Ceredigion fwy gwydn ac yn cael eu cefnogi’n well. Mae tair rhan i’r prosiect: cryfhau cymorth cymunedol Ceredigion, cefnogi grwpiau Angori Cymunedol a gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau.

Rhai o’r pethau y mae’r prosiect hwn eisiau cyflawni yn cynnwys sesiynau allgymorth trydydd sector, mapio adnoddau digidol ac ariannu sesiynau hyfforddi cymunedol, datblygu grwpiau angori cymunedol a chynlluniau ymateb brys a hyrwyddo gwasanaethau digidol fel Gwirfoddoli Cymru  a Cysylltu Ceredigion.