Mae’r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn rhoi cannoedd o becynnau gardd am ddim i gymunedau ar draws y wlad.

Ers 2020, mae bron 800 o erddi eu creu, eu hadfer a’u gwella trwy Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Cymerodd grwpiau cymunedol a sefydliadau o bob math a maint ran – o elusennau anabledd a grwpiau ieuenctid i fentrau cymdeithasol a grwpiau gofalwyr.

Mae’r ceisiadau bellach wedi ailagor, ac mae cymunedau yn cael eu hannog i gymryd rhan ac osgoi colli’r cyfle. Mae’r system ymgeisio ar-lein newydd yn ei gwneud hi’n hawdd iawn gwneud cais, yn ogystal â chynnig adnoddau, arweiniad a diweddariadau o’r cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur. Gallwch ddewis o erddi bywyd gwyllt a thyfu bwyd bach neu ar raddfa fwy, neu am y tro cyntaf mae’r cynllun yn cynnig pecyn perllan gymunedol newydd.

Dywedodd y Gweinidog dros Newid Hinsawdd, Julie James: “Mae’r pandemig wedi rhoi mwy o werthfawrogiad i ni i gyd o natur a’i phwysigrwydd i’n hiechyd a’n lles meddwl.

Rwy’n falch o gefnogi blwyddyn arall o Leoedd Lleol ar gyfer Natur. Mae’r rhaglen yn ei gwneud hi’n hawdd i bobl o bob cefndir a gallu gymryd rhan, fel cymuned, i greu a mwynhau byd natur yn y mannau lle rydyn ni’n byw ac yn treulio’r rhan fwyaf o’n hamser.

“Mae gwerthfawrogi byd natur a chymryd camau bach lleol mor bwysig fel rhan o’r ymdrech ar y cyd sydd ei angen i fynd i’r afael â’r argyfwng natur, a chefnogi’r amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid rydyn ni’n caru eu gweld yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus Louise Tambini:

“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae pobl wir wedi gwerthfawrogi gwerth byd natur ac rydym yn falch iawn o gynnig pecynnau garddio am ddim eto i gymunedau. Rydyn ni’n gwybod bod garddio a bod allan ym myd natur yn cael effaith gadarnhaol ar les meddwl, ac mae’n ffordd wych o gadw’n heini a chwrdd â phobl newydd. Trwy Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, rydym wedi creu cannoedd o gynefinoedd a mannau newydd ar gyfer natur, sy’n hanfodol yn yr argyfwng hinsawdd bresennol a’r dirywiad mewn bioamrywiaeth.

“Diolch i gefnogaeth barhaus Llywodraeth Cymru a’n partneriaid mae ein pecynnau gardd yn cynnwys yr holl ddeunyddiau ac offer sydd eu hangen arnoch i greu gofod newydd ar gyfer natur a bydd staff Cadwch Gymru’n Daclus wrth law i osod yr ardd.”

Mae’r fenter yn rhan o gronfa ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i greu, adfer a gwella natur ‘ar eich stepen drws’.

Mae cannoedd o becynnau gardd am ddim ar gael.  I wneud cais, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru/nature