Diweddariad gan Gofal Cymdeithasol Cymru

Rydym yn amcangyfrif bod tua 91,000 o bobl yn gweithio ar draws gofal cymdeithasol a gwaith cymdeithasol yng Nghymru. Mae tua 80% o’r rheini yn fenywod ac mae tua hanner yr 80% hwnnw dros 45 oed.

Mae’r menopos yn rhan naturiol o heneiddio sydd fel arfer yn digwydd rhwng 45 a 55 oed wrth i lefelau estrogen ostwng. Mae hyn yn golygu bod llawer o fenywod yn mynd trwy’r menopos. Rydym am i hwn fod yn brofiad iach tra’n cael bywyd proffesiynol cynhyrchiol hefyd.

Mae ymchwil yn dangos bod 10 y cant o fenywod yn gadael eu swyddi, a llawer mwy yn lleihau eu horiau neu ddim yn mynd am ddyrchafiadau, oherwydd eu symptomau menopos.

Nid mater rhyw neu oedran yn unig yw’r menopos, gan y gall effeithio ar gydweithwyr yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, felly dylid ei ystyried yn fater sefydliadol. Mae’n ddefnyddiol i reolwyr wybod amdano a sut y gallant gefnogi eu staff. Dylent hefyd fod yn ymwybodol o effeithiau anuniongyrchol y menopos ar bobl fel gwŷr/gwragedd/partenriaid ac aelodau agos o’r teulu a ffrindiau. Gall y newid roi pwysau ychwanegol ar berthnasoedd, felly mae’n bwysig bod rheolwyr yn cyfeirio at sianeli cymorth priodol.

Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnig mewn dwy ran (1 awr) ddydd Iau 9fed a 16eg Chwefror 2023 ar Zoom 11-12.

Sesiwn 1

  • • Yn archwilio: Corfforol ac Emosiynol
  • • Diffinio a deall yr hyn a olygwn wrth Menopos
  • • Menopos mewn Hanes
  • • Symptomau Cyffredin Menopos
  • • Strategaethau Ymdopi a Thriniaethau

Sesiwn 2

  • • Yn archwilio: Menopos yn y gwaith
  • • Sut y gall cyflogwyr helpu menywod i lwyddo yn ystod y Menopos
  • • Polisïau gweithle
  • • Deddf Cydraddoldeb 2010
  • • Agwedd ac addasiad rhesymol
  • • Rhoi diwedd ar y stigma

I ymuno â’r sesiwn cofrestrwch yma.