Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Ceredigion (CAVO) yw’r cyngor gwirfoddol sirol sy’n cefnogi gweithredu cymunedol gwirfoddol ledled Ceredigion. Rydym yn dîm bach o unigolion brwdfrydig, sy’n cynorthwyo sefydliadau ag ystod o wasanaethau, i gefnogi datblygiad grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar draws y Sir.

Yn ystod y misoedd nesaf rydym yn bwriadu cyflwyno grŵp rhwydweithio ymddiriedolwyr newydd cyffrous yng Ngheredigion. Bydd y rhwydwaith yn gyfle i ymddiriedolwyr gysylltu, rhannu profiadau a syniadau a thrafod unrhyw faterion sy’n bwysig iddynt, megis cyfleoedd cyllido, anghenion a phryderon sefydliadol, gwirfoddoli a syniadau am ffyrdd o gydweithio.

Rydym yn awyddus i glywed gan ymddiriedolwyr ledled Ceredigion, i wrando ar eich barn a’ch awgrymiadau ar sut yr hoffech i’r rhwydwaith hwn gael ei ddatblygu. Cysylltwch â CAVO gyda’ch syniadau ac am fwy o wybodaeth: E-bost: gen@cavo.org.uk  neu 01570 423 232.

Byddem yn ddiolchgar petaech yn gallu cwblhau’r arolwg ar-lein hwn Arolwg Rhwydwaith Ymddiriedolwyr

Bydd y cyfarfod rhwydwaith cyntaf yn cael ei gynnal yng Ngwanwyn 2024.

Mae Rhwydwaith Ymddiriedolwyr Ceredigion yn rhan o brosiect newydd a darparwyd gan CAVO o’r enw Gwerthfawrogi Gwirfoddoli. Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, sy’n cael ei yrru gan Ffyniant Bro.