Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr 2022 yw’r 21ain flwyddyn i’r dathliad cenedlaethol o wirfoddoli ddigwydd.  Eleni bydd yr wythnos yn cael ei chynnal rhwng 7 a 13 Chwefror 2022.

Mae Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn dathlu gwirfoddoli myfyrwyr yn y ffyrdd canlynol:

  1. Gwella lles myfyrwyr
  2. Datblygu cyflogadwyedd myfyrwyr
  3. Cyfrannu’n gadarnhaol at fywyd y gymuned ehangach a lleol

Mae hwn yn gyfle unigrys dros gyfnod o wythnos lle bydd’ get rhyd of ‘o hyd.

UmAber

Diwrnodau o Weithredu

Cyfleoedd gwirfoddoli untro yw diwrnodau o weithredu, sy’n berffaith i’r rheiny sydd am roi rhywbeth yn ôl, datblygu sgiliau newydd a chwrdd â phobl newydd heb wneud ymrwymiad parhaus.Boed hynny’n glanhau traeth, digwyddiad codi arian neu barti i’r henoed, cyn belled â’ch bod chi’n fodlon ymroi ychydig oriau o’ch amser, byddwn ni’n eich helpu chi i wirfoddoli!

Cynhelir diwrnodau o weithredu gan Undeb y Myfyrwyr neu sefydliadau lleol a bydd angen gwirfoddolwyr arnynt ar gyfer digwyddiadau untro. Mae amryw gyfleoedd untro i wirfoddoli gydol y flwyddyn a chewch gyfranogi mewn cymaint o’r rhain ag y mynnwch!

Sylwch fod y diwrnodau o weithredu’n cael eu llenwi ar sail y cyntaf i’r felin. Rhaid cofrestru fel gwirfoddolwr cyn gwneud cais i gymryd rhan mewn diwrnod o weithredu ac ebostiwch Amy – alg51@aber.ac.uk

Hanes

2022 yw’r 21ain flwyddyn o Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr yn y DU. Mae gan wirfoddoli myfyrwyr a gweithredu cymdeithasol yn y DU hanes hir, o aneddiadau a theithiau prifysgolion yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wersylloedd gwaith i bobl ddi-waith yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd i brotestio CND a Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr ar ôl yr Ail Ryfel Byd a thrwy gydol rhan ddiweddarach yr 20fed Ganrif. Mae myfyrwyr yn aml ar flaen y gad o ran hyrwyddo gwahanol faterion a diddordebau cymdeithasol, fel yr agenda cynaliadwyedd ac entrepreneuriaeth gymdeithasol

I gael gwybod mwy am yr hyn y mae myfyrwyr ledled y wlad yn ei wneud, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn sianeli cyfryngau cymdeithasol yr Wythnos Gwirfoddoli Myfyrwyr ar Twitter a Instagram, a’n tagio ni i rannu dy straeon.