Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU, wedi ei yrru gan Ffyniant Bro. 

Cyfle newydd i grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn cael asesiadau ynni ac adeiladu am ddim i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng cost ynni mewn Adeiladau Cymunedol.


Cyfle i 20 o grwpiau cymunedol yng Ngheredigion dderbyn archwiliadau ynni am ddim yn ystod Hydref 2023.  

Oherwydd costau ynni cynyddol a’r pwysau ar adeiladau a redir gan y gymuned, mae Severn Wye Energy Agency Ltd mewn partneriaeth â CAVO (Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Ceredigion) yn gallu cynnig gwasanaeth archwilio ynni gan cefnogaeth o’r Gronfa Ffyniant Bro, Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, Llywodraeth y DU.  Mae’r gwasanaeth archwilio ynni hwn yn gyfyngedig – 20 archwiliad ynni. 

I wneud cais, llenwch y ffurflen mynegiant diddordeb isod erbyn 9am, 9 Hydref 2023.

Archwiliad Ynni, Mynegi Diddordeb – Energy Audit, Expression of Interest