Mae’n rhaid cynnal Asesiadau Poblogaeth bob pum mlynedd, gyda mewnbwn gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau, gofalwyr di-dâl a chydweithwyr yn y trydydd sector a’r sector annibynnol. Bydd Asesiad Poblogaeth Gorllewin Cymru nesaf yn cael ei gyhoeddi ddiwedd mis Mawrth 2022 ac mae gwaith ar gasglu gwybodaeth a data wedi dechrau.

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol lunio Asesiad Poblogaeth o’u rhanbarth sy’n nodi’r canlynol: yr angen am ofal a chymorth; yr anghenion cymorth ar gyfer gofalwyr yn eu rhanbarth; yr ystod o wasanaethau sydd eu hangen; i ba raddau y mae’r anghenion a nodwyd yn cael eu diwallu a sut y caiff gwasanaethau eu darparu yn Gymraeg.

Elfen allweddol o’r broses yw casglu barn pobl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal a chymorth a gofalwyr di-dâl yn y rhanbarth. Byddem yn croesawu’n fawr eich i’r arolwg hwn ar gyfer Asesiad Poblogaeth 2022, sy’n 31 Hydref 2021.

Dilynwch y dolenni isod i gwblhau’r arolwg:

Population Assessment

Population Assessment (for Organisations)