Wedi’i greu gyda’r sector ar gyfer y sector

Mae’r dysgwyr cyntaf o’r rhaglen Elwa trwy Wirfoddoli wedi cwblhau rhaglen 9 wythnos yn ddiweddar gyda’r Brifysgol Agored (OU) yng Nghymru. Datblygwyd y rhaglen mewn partneriaeth â CAVO, C3SC, SvSC a WCVA er mwyn cynhyrchu rhywbeth a fyddai’n ychwanegu gwerth at y trydydd sector ac yn helpu i uwchsgilio a chadw gwirfoddolwyr.

Yn cynnwys gwirfoddolwyr o bob rhan o’r rhanbarth enillodd y cyfranogwyr sgiliau mewn arweinyddiaeth, ymwybyddiaeth o lwybrau’r Brifysgol Agored, cwblhawyd cyrsiau OpenLearn a thrafodwyd syndrom imposter a magu hyder. Cafwyd mynediad i’r cynnwys trwy Wakelet a rhannwyd recordiadau o’r gweithdai i’r cyfranogwyr wedi ei crynhoi.

Cwblhaodd cyfanswm o 25 unigolyn y rhaglen a cyflwynwyd tystysgrifau a thystebau iddynt i ddathlu eu llwyddiant.

Mae gwerthusiad trylwyr bellach ar y gweill a gobeithiwn y bydd yn llywio’r camau nesaf a’r gwaith cyflawni arfaethedig yn gynnar yn 2024.

Hyfforddiant am ddim i wirfoddolwyr ddatblygu eu sgiliau