Nod prosiect Pencampwyr Cymru ydy meithrin sgiliau a hyder pobl ifanc i ddod yn bencampwyr cydraddoldeb yn eu cymunedau. Rydyn ni’n gwneud hyn mewn dwy ffordd, yn gyntaf drwy gyflwyno rhaglen ddysgu sy’n sôn am bynciau a materion fel hawliau merched, bod yn bendant, trais sy’n seiliedig ar rywedd, sut i gadw’n ddiogel yn y gymuned a sut i fod yn eiriolwr dros gydraddoldeb rhywiol.

Rydyn ni’n gweithio gyda phedwar corff partner sy’n cyflwyno hyn ym Mhen-y-bont, Caerdydd, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, ac Abertawe. Os hoffech chi fod yn rhan o elfen yma’r rhaglen, mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan neu e-bostiwch ChampionsofWales@plan-uk.org

Yr ail ffordd rydyn ni’n annog pobl ifanc i hyrwyddo newid yn eu cymunedau ydy darparu arian i’w helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywiol yn eu hardal leol.

Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod merched a phobl ifanc yn wynebu nifer o heriau sy’n gallu eu dal yn ôl yn yr ysgol,
gyrfa, bywyd bob dydd ac yn eu hatal rhag jest bod pwy ydyn nhw. 

Os ydy gwybod am yr heriau yma’n eich ysbrydoli i wneud gwahaniaeth, yna rydyn ni eisiau clywed gennych chi! Mae llawer o wahanol ffyrdd y gallwch chi helpu i daclo anghydraddoldeb rhywiol, efallai eich bod chi’n gwneud rhywbeth yn barod.

I wneud caid dylech chi fod:

  • Rhwng 13-25 blwydd oed
  • rhai sydd dan 16, mae’n rhaid i chi gael oedolyn cyfrifol ar y prosiect a fydd yn derbyn arian i’w cyfrif banc nhw
  • Rhaid i chi fyw a chyflwyno’r prosiect yng Nghymru
  • Rhaid bod gennych chi ganolwr – rhywun sy’n gallu cefnogi’ch cais. Rhaid i’r person yma fod yn weithiwr proffesiynol dros 18 oed.

Am fwy o wybodaeth

E-bostiwch: ChampionsofWales@plan-uk.org

Ewch i: https://plan-uk.org/act-for-girls/champions-of-wales

Lawrlwythiwch: