Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn gallu agor y Grantiau Dan Arweiniad Ieuenctid ar gyfer rownd arall eleni.

Rhwng 14 a 25? 
Oes gennych chi syniad gwych am digwyddiad neu brosiect i hybu gwirfoddoli? 
Hoffech chi gael £1000 i helpu? 

Dyma’r cyfle i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed ymgeisio am hyd at £1000 i ddod â’u syniadau ar gyfer hybu gwirfoddoli yn fyw. Dylen nhw gynnig y syniad, llenwi’r ffurflen gais ac arwain ar y prosiect neu’r digwyddiad fodd bynnag mae’n bosibl y bydd oedolyn yn eu cefnogi pan fo angen neu’n briodol.

Cwblhewch y ffurflen gais a’r ddogfen telerau ac amodau (T&C) erbyn Tachwedd 30 a’i dychwelyd i CAVO.

Dim ond ar gyfer mis Tachwedd mae ceisiadau ar agor felly peidiwch ag oedi.