Dweud eich dweud ar ddyfodol amgylchedd naturiol Cymru

Gyda’r byd yn profi argyfwng hinsawdd a natur, mae dirfawr angen sgwrs genedlaethol am ddyfodol ein hadnoddau naturiol, a gwneud rhywbeth yn ei gylch, cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Nod Natur a Ni yw cael pawb yng Nghymru i feddwl a siarad am y dyfodol yr ydym ei eisiau ar gyfer ein hamgylchedd naturiol, a’r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i’w warchod. Mae Natur a Ni yn rhoi cyfle i bawb yng Nghymru ddweud eu dweud ar ddyfodol ein hamgylchedd naturiol. Beth sydd angen ei newid am y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau – yn enwedig y bwyd rydyn ni’n ei dyfu a’i fwyta, y ffordd rydyn ni’n teithio a sut rydyn ni’n cynhyrchu ac yn defnyddio ynni? Sut gallwn ni helpu i leihau effeithiau newid hinsawdd a gwrthdroi colli bioamrywiaeth?

Mae Natur a Ni eisiau syniadau ymarferol i lywodraethau, sefydliadau ac unigolion ganolbwyntio arnyn nhw, fel y gallwn ni i gyd weithio tuag at gynaliadwyedd gyda’n gilydd. Bydd y sgwrs genedlaethol yn archwilio ein perthynas â natur a’n systemau bwyd, ynni a theithio – ac yn archwilio sut maen nhw i gyd yn effeithio ar newid hinsawdd a’r amgylchedd naturiol. Mae Natur a Ni yn gyfle i rannu eich barn heddiw a helpu i benderfynu pa lwybr y mae Cymru yn ei gymryd tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Dweud eich dweud heddiw wrth ddilyn y ddolen hon at y tudalennau Gymraeg: Nature and us: what future do we want for our natural environment? | Freshwater (eventscase.com)