Fel y byddwch yn ymwybodol, mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion wedi cyhoeddi Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-28 sy’n amlinellu 4 Amcan Llesiant am y 5 mlynedd nesaf. Er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn canolbwyntio ar y tasgau cywir ar gyfer bob Amcan, maent yn awyddus i gael sgwrs eang gyda phartneriaid er mwyn blaenoriaethu’r gwaith.

Mae’r gweithdai a nodir isod yn cael eu targedu at sefydliadau a fydd yn gallu rhoi cyngor a mewnbwn ar flaenoriaethu’r tasgau y cytunwyd arnynt ac y gallant helpu i nodi’r dull cyflawni mwyaf addas ar gyfer pob un. Mae croeso i chi rannu’r gwahoddiad yma gyda chydweithwyr er mwyn helpu i sicrhau’r budd mwyaf o’r trafodaethau wrth i ni ddechrau gweithredu Cynllun Llesiant Lleol Ceredigion 2023-2028 .

12 Hydref 2023 am 10:00-12:00        Gweithdy Amcan 4: Hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i alluogi cymunedau i deimlo’n ddiogel a chysylltiedig a byddwn yn hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol a chynyddu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
16 Hydref 2023 am 15:00-17:00        Gweithdy Amcan 2: Atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella iechyd corfforol a meddyliol.Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i leihau anghydraddoldebau yn ein cymunedau ac yn defnyddio atebion cymdeithasol a gwyrdd i wella iechyd corfforol a meddyliol.
23 Hydref 2023 am 14:00-16:00        Gweithdy Amcan 3: Cyflwyno mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i gyflwyno mentrau datgarboneiddio yng Ngheredigion i ddiogelu a gwella ein hadnoddau naturiol.
6 Tachwedd 2023 am 14:00-16:00Gweithdy Amcan 1: Economi gynaliadwy.Cydweithio i sicrhau economi gynaliadwy sydd o fudd i bobl leolac yn adeiladu ar gryfderau Ceredigion.

Gofynnir yn garedig i chi nodi’n ffurfiol eich bwriad i fynychu’r gweithdai drwy gysylltu â partnerships@ceredigion.gov.uk a nodi eich enw, sefydliad, teitl swydd a’r gweithdy(au) yr hoffech eu mynychu.

Wrth baratoi ar gyfer y gweithdai, gofynnwn i chi ail-gyfarwyddo â manylion y tasgau y cytunwyd arnynt ar gyfer pob Amcan o fewn y cynllun, gan y bydd y rhain yn sail i adolygiad cychwynnol ar gychwyn bob un o’r gweithdai. Mae copi o’r tasgau hyn isod.  Bydd manylion yr Agenda ac unrhyw bapurau pellach yn cael eu rhyddhau yn nes at y dyddiad.

Gobeithiwn yn fawr y byddwch chi a’ch cydweithwyr yn gallu mynychu’r Sesiynau Gweithredu pwysig yma ac edrychwn ymlaen at eich gweld maes o law. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Diolch am eich cydweithrediad cyson.

Cofion Cynnes,

Tîm Partneriaeth